Mae mwy o farwolaethau’n gysylltiedig ag alcohol wedi’u cofnodi yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn 2016, roedd 504 o farwolaethau wedi’u cofnodi i fod yn gysylltiedig ag alcohol sy’n gynnydd o 8.9% ers 2015.

 

Yn ogystal mae cynnydd yn y nifer o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau gyda 271 o bobol wedi marw o wenwyn cyffuriau yn 2016, ac mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru wedi disgrifio hyn yn “broblem iechyd mawr.”

 

Camddefnydd sylweddau

 

Er hyn, mae Vaughan Gething yn pwysleisio fod gwelliant wedi bod wrth ddarparu triniaeth i bobol sy’n camddefnyddio sylweddau a’u bod yn cael cymorth o fewn ugain diwrnod o gael eu hatgyfeirio.

 

Mae’r adroddiad yn nodi bod 20% o oedolion yn 2016 yn dweud eu bod yn yfed mwy o alcohol nag argymhelliad Prif Swyddogion Meddygol y DU o 14 uned yr wythnos.

 

Mi gafodd 18,279 o bobol eu hasesu yn 2016-2017 am gamddefnydd sylweddau yn rhan o’r adroddiad.

 

‘Pryder difrifol’

 

“Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron £50m y flwyddyn yn mynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd.

 

“Ond wrth inni fuddsoddi a gweithio’n galed i leihau niwed, mae angen i ni gymryd camau ychwanegol i atal y niwed hwnnw rhag digwydd yn y lle cyntaf.”

 

“Mae atal pobol rhag camddefnyddio sylweddau yn y dyfodol yr un mor bwysig â thrin y broblem ei hun,” meddai.

 

“Rydyn ni’n gwybod bod y niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol yn benodol yn bryder difrifol, a dyna pam fod angen mynd i’r afael â fforddiadwyedd alcohol rhad a chryf ar frys drwy gyflwyno isafbris uned ar gyfer gwerthu alcohol.