Gan ddechrau heddiw, bydd modd i bobol ildio arfau tanio anghyfreithlon i luoedd heddlu’r Deyrnas Unedig am gyfnod o bythefnos o hyd.

 

Yn ystod y cyfnod yma ni fydd yr unigolion sy’n cyflwyno’r arfau yn cael eu herlyn ac mae modd iddyn nhw aros yn ddienw.

 

Gobaith yr awdurdodau yw efelychu llwyddiant ymgyrch tebyg yng Nghymru a Lloegr yn 2014 pan gafodd dros 6,000 o arfau eu hildio i’r heddlu gan y cyhoedd.

 

Fel arfer mae meddu ar arf tanio yn anghyfreithlon yn medru arwain at gyfnod o bum mlynedd dan glo, ac fe allai arwain at ddedfryd o garchar am oes am gyflenwi arf anghyfreithlon.

 

“Diogel a dienw”

 

“Mae llawer o bobl yn meddu ar arfau tanio yn ddiniwed, fodd bynnag, mae bob amser risg y gall y dwylo anghywir gael gafael arnynt a’u defnyddio at ddibenion troseddol,” meddai’r Uwch-arolygydd o Heddlu Gwent, Glyn Fernquest.

 

“Mae’r fenter hon yn rhoi cyfle i bobl waredu unrhyw arfau tanio diangen neu rai nad ydynt yn cael eu defnyddio, a hynny’n ddiogel ac yn ddienw, p’un a ydynt yn meddu ar yr arfau yn gyfreithlon neu’n anghyfreithlon.”