Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydyn nhw’n “adnabod y sylwadau” sy’n awgrymu fod bwlio o fewn rhengoedd ucha’r llywodraeth.

Daw hyn wrth iddyn nhw ymateb i honiadau gan Steve Jones fu’n gweithio am gyfnod yn ymgynghorydd arbenigol i Carwyn Jones.

Mewn cyfweliad â BBC Wales Today dywedodd Steve Jones ei fod yn ategu sylwadau y cyn-Weinidog Addysg, Leighton Andrews, wnaeth ddisgrifio “awyrgylch wenwynig” o fewn y Llywodraeth.

Ond yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru – “Nid ydym yn adnabod y sylwadau hyn. Mae’r holl gwynion yn ymwneud â staff a chynghorwyr arbenigol yn cael eu hystyried o ddifrif ac yn cael eu delio yn briodol.”

Agor cwest

Daw’r honiadau wrth i gwestiynau godi am y modd y gwnaeth y Prif Weinidog ddelio â diswyddiad Carl Sargeant fel Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru.

Fe gafodd Carl Sargeant, 49 oed, ei ganfod yn farw yn ei gartref pedwar diwrnod ar ôl colli ei swydd ac mae cwest i’w farwolaeth wedi agor heddiw.