Mae heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad dros y penwythnos (Tachwedd 11) ar draffordd yr M4.

Bu farw Tony Pemberton, 29, yn y fan a’r lle wedi iddo gael ei daro gan sawl cerbyd rhwng cyffordd 35 Pencoed a 36 Sarn.

Roedd yn dad i ddwy ferch ifanc ac yn hanu o ardal Y Pîl ger Pen-y-bont ar Ogwr.

“Roedd ei ffrindiau a’i deulu oll yn ei garu,” meddai’r teulu mewn teyrnged iddo. “Roedd e bob tro’n tynnu coes, a doeddech chi byth yn diflasu tra’r oeddech chi yn ei gwmni.”

Dylai unrhyw un oedd yn dyst i’r gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu De Cymru trwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1700439235.