Fe fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru heddiw i nodi Sul y Cofio.

Mae’r gwasanaeth cenedlaethol swyddogol yn cael ei gynnal ger y gofeb ryfel genedlaethol ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd, ac mae gwasanaeth ger y gofeb ryfel ym Mae Abertawe.

Yn y gogledd, mae gwasanaethau ym Modhyfryd yn Wrecsam ac yng Nghadeirlan Bangor, a diwrnod rasio Mission Motorsport ar Gylchffordd Ynys Môn.

Yng Ngheredigion, mae digwyddiadau yn Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Ac fe fydd cynrychiolwyr o Ambiwlans St John Cymru yn teithio i’r Senotaff yn Llundain i gofio am yr aelodau fu farw ym Mametz yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.