Mae pobol Rhondda Cynon Taf wedi newid eu hagwedd tuag at y Gymraeg, yn ôl Prif Weithredwr Menter Iaith y sir.

Mae’r fenter yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni ac yn ôl Einir Siôn, mae pobol erbyn hyn eisiau bod yn rhan o’r iaith.

“Dw i’n meddwl ein bod ni’n gweithredu mewn sir sydd â’r potensial am dwf aruthrol yn nefnydd yr iaith Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Mae gennym ni 17 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, pedair ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg, ac mae dwy o’r ysgolion cyfun a nifer o’r ysgolion cynradd wedi dod yn ystod y cyfnod o 25 mlynedd ddiwethaf.

“Dw i’n gweld newid agwedd gyda phobol o ddydd i ddydd, mae pobol nawr yn teimlo eu bod nhw eisiau bod yn rhan o’r iaith Gymraeg, yn ogystal â’r diwylliant Cymraeg.

“Rydyn ni mewn sir lle mae Cymreictod yn weddol gadarn, hynny yw, mae’r mwyafrif o’r boblogaeth yn y sir yma yn dod o Gymru, os nad yn dod o’r sir, ac yn teimlo yn Gymry i’r carn.

“Nod ni fel menter yw bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac rydyn ni’n ategu’r pwynt yna yn gyson. Boed chi’n gallu’r sgil yna o siarad Cymraeg neu beidio, mae’r iaith yn perthyn i chi.

“Dw i’n teimlo bod yna newid agwedd, yn enwedig dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn gyffredinol yng Nghymru, ac mae hwnnw’n cael ei ategu yn y sir hon.

“Mae pobol eisiau bod yn rhan o’r iaith neu’n teimlo colled os nad oes ganddyn nhw’r iaith ac ein sialens ni wrth i ni drio codi defnydd y Gymraeg yw codi hyder pobol i’w defnyddio.”

Parti heno

Bydd noson arbennig yng Nghanolfan Gelfyddydau Y Miwni ym Mhontypridd heno i ddathlu pen-blwydd y fenter, gyda chynulleidfa o 450, gan gynnwys bron i 100 o berfformwyr.

Bydd H a’r Band yn perfformio, yn ogystal â’r band lleol, Wigwam, Côr Godre’r Garth, bandiau ifanc o ysgolion uwchradd y sir, y clwb drama lleol, plant ysgol, sgwrs gyda sylfaenwyr y fenter a Martyn Geraint yn llywio’r noson.

Mae’r fenter hefyd yn lansio CD, gyda chaneuon bandiau ifanc a pherfformiad dros 1,200 o blant cynradd y sir yn canu ‘Cân y Dathlu’ gyda Mei Gwynedd arni.