Fe fydd £2.3 biliwn yn cael ei wario dros y blynyddoedd nesaf er mwyn adeiladu ysgolion a cholegau newydd yng Nghymru.

Dan gynlluniau Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, fe fydd yr arian yn cynnwys arian preifat yn ogystal â chyllid cyhoeddus.

Mae’n ail gam yn y rhaglen wario sydd wedi arwain at gau llawer o ysgolion bach yn ogystal â chodi adeiladau newydd.

Partneriaeth

Mae Kirsty Williams wedi cyhoeddi math newydd o “Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat” sy’n cael ei enwi’n “Model Buddsoddi Cydfuddiannol.”

Y syniad yw cynnig model gwahanol i’r cynlluniau cyllid preifat – PFI- sydd wedi achosi dadlau mawr ac amheuon am eu heffeithiolrwydd

Mae’r cynlluniau yn rhan o raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif y Llywodraeth ac mae ei rhan gyntaf – Band A – i fod i ddod i ben yn 2019 ar ôl gwario £1.4 biliwn dros gyfnod o bum mlynedd.

Ail ran

Yn awr mae Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd yr ail ran – Band B – yn dechrau yn 2019 pan fydd y £2.3 biliwn yn cael ei wario drwy gyllid traddodiadol a chyllid refeniw.

Y cynghorau sir sydd yn rhoi cynigion gerbron i adeiladu ysgolion neu golegau yn eu hardal nhw ac mae’r Llywodraeth wedi “ymroi i gefnogi’r holl brosiectau hyn” ar yr amod bod yr achosion busnes yn cael sêl bendith.

Yn ôl y Llywodraeth, mae’r cynigion sydd wedi dod gan y cynghorau yn mynd i’r afael â’r cynnydd yn y galw mewn addysg Gymraeg, yn lleihau’r nifer o leoedd “dros ben”  mewn ysgolion ac yn sicrhau bod “asedau addysgol” ar gael i’r gymuned ehangach eu defnyddio lle bydd angen.

“Buddsoddiad mwyaf ers y 1960au”

 “Dw i wedi ymroi i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol drwyddi draw,” meddai Kirsty Williams.

“Mae’r Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn un o’r dulliau rydyn ni’n eu defnyddio i gyflawni’r uchelgais hon. Dyma’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 1960au.

“Dyma pam yr ydw i mor falch o gyhoeddi ail don fuddsoddi’r Rhaglen, a fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2019.”

Mae disgwyl cyhoeddiad ble bydd yr ysgolion newydd nesaf yn mynd maes o law.

  • Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 152 o brosiectau yn rhan o’r cyfnod cynta’ – mae 83 wedi’u cwblhau a 45 yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.