Mae Cymru’n dal i gael llai o wario cyhoeddus y pen na Gogledd Iwerddon, yr Alban a Llundain, yn ôl ffigurau diweddara’ Llywodraeth Prydain.

Mae’r ystadegau’n debyg o arwain at ragor o alwadau am newid Fformiwla Barnett sy’n dosbarthu arian rhwng pedair gwlad Prydain.

Mae Dadansoddiad Gwlad a Rhanbarth 2017 yn dangos bod Gogledd Iwerddon yn cael bron £1,000 y pen yn fwy o wario cyhoeddus na Chymru, a’r Alban bron £600 yn fwy.

Mae Llundain hefyd yn cael mwy na £100 yn fwy o wario cyhoeddus y pen yn fwy na Chymru.

Dyma’r ffigurau – gwario y pen 2016-17

  • Gogledd Iwerddon – £11,042
  • Yr Alban – £10,651
  • Llundain – £10,192
  • Cymru – £10,076
  • Lloegr i gyd – £8,898

Cyfanswm y gwario cyhoeddus yng Nghymru – cyfran o wario llywodraeth ganol a gwario yng Nghymru ei hun – oedd £31 biliwn.

Dyw’r ffigurau ddim yn cynnwys y £1biliwn ychwanegol sydd wedi ei addo i Ogledd Iwerddon yn rhan o’r fargen i gadw’r Ceidwadwyr mewn grym.

Mae Fformiwla Barnett wedi ei seilio’n benna’ ar boblogaeth yn hytrach nag angen.