Roedd y Prif Weinidog yn gwybod y gallai’r Aelod Cynulliad Carl Sargeant fod yn fregus, yn ôl un o gyn-gydweithwyr y ddau.

Roedd hynny’n golygu y dylai Carwyn Jones fod wedi delio’n ofalus â’r penderfyniad i ollwng yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant o’r Cabinet, meddai Leighton Andrews.

Roedd yn ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog ynglŷn â’r digwyddiadau a arweiniodd at hunanladdiad tybiedig AC Alyn a Glannau Dyfrdwy.

‘Tanseilio’

Ac yntau’n aelod o’r Cabinet ei hun yn y Cynulliad diwetha’, fe ddywedodd y cyn-wleidydd bod Carl Sargeant wedi cael ei danseilio gan gydweithwyr yn ystod y cyfnod hwnnw.

Roedd Carwyn Jones wedi holi fwy nag unwaith bryd hynny am gyflwr meddwl Carl Sargeant, meddai Leighton Andrews wrth y rhaglen deledu, Newsnight.

Fe ailadroddodd honiadau am awyrgylch o “fan-fwlio a gêmau pŵer” o fewn y Llywodraeth rhwng 2011 a 2016; ef ei hun oedd y gweinidog cynta’ yn y Cynulliad i orfod ymddiswyddo ar ôl methu â chael cefnogaeth Carwyn Jones pan gafodd ei gyhuddo o dorri’r rheolau tros ymgyrch i achub ysgol.

‘Dicter mawr’

Fe ddywedodd Leighton Andrews fod “dicter mawr” yng Nghymru tros farwolaeth Carl Sargeant ac fe feirniadodd Carwyn Jones yn uniongyrchol am roi sylwadau i’r cyfryngau am y cyhuddiadau yn erbyn yr AC – ar ôl i’r broses ddisgyblu ddechrau.

Roedd Carl Sargeant ei hun yn dweud nad oedd yn gwybod am fanylion yr honiadau; yr unig wybodaeth a gafodd oedd eu bod yn ymwneud â “sylw annerbyniol a chyffwrdd amhriodol”.

Fe fydd cwest i farwolaeth yr AC yn cael ei agor a’i ohorio yn Rhuthun ddydd Llun.