Mae Heddlu De Cymru wedi enwi dynes oedrannus a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe ddydd Mercher (Tachwedd 8).

Bu farw Valarie Joan Mannu, 85, o’i hanafiadau ar ôl iddi gael ei tharo gan gar ar Ffordd Caernarfon, Bon-y-maen.

Gyrrodd y car i ffwrdd heb stopio yn dilyn y gwrthdrawiad. Mae heddlu yn credu mai Volkswagen Amorak llwyd oedd y car.

Cafodd dyn lleol, 53, ei arestio yn gysylltiedig â’r digwyddiad ond bellach mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

“Roedd hi’n caru bywyd a’n llawn hwyl,” meddai ei theulu mewn teyrnged iddi. “Bydd ei chymuned – lle’r oedd pawb yn ei hadnabod a’i charu – a’i theulu yn gweld ei eisiau.”

Mae Heddlu De Cymru wedi galw ar unrhyw un oedd yn drist i’r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.