Mae deiseb yn galw am ddatganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru wedi cael ei gyflwyno gan ymgyrchwyr iaith heddiw (Tachwedd 9).
Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i Euryn Ogwen Williams wedi iddo gwrdd ag ymgyrchwyr mudiad Dathlu’r Gymraeg i drafod dyfodol darlledu Cymraeg.
Euryn Ogwen Williams sy’n gyfrifol am adolygiad – cafodd ei chomisiynu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – sydd â’r nod o fynd i’r afael â sawl mater yn gysylltiedig ag S4C.
Mae dros 1,000 wedi arwyddo’r ddeiseb sy’n “galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli darlledu i Senedd Cymru”.
“Bygythiadau cyson”
“Rhwng bygythiadau cyson i gyllid ac annibyniaeth S4C, rhaglenni fel Newsnight yn sarhau’r Gymraeg, a diffyg cynrychiolaeth ystyrlon o newyddion a phobl Cymru yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw’r drefn bresennol yn gweithio,” meddai Aled Powell, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Yr unig ateb i hyn yn y pendraw yw datganoli darlledu i Gymru: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru.”