Mae sylwebydd gwleidyddol yn chwyrn ei feirniadaeth ar wefan Twitter o’r ffordd y cafodd y diweddar Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant ei drin gan ei blaid a’i gydweithwyr, wedi i honiadau o gamymddwyn rhywiol gael eu gwneud amdano.

Ar y wefan gymdeithasol heddiw, mae Darran Hill yn dweud iddo ymweld â theulu Carl Sargeant yng Nghei Conna neithiwr, lle mae yna “anghrediniaeth” nad yw Carwyn Jones wedi bod mewn cysylltiad hyd yn hyn.

Hynny meddai, a bod y blaid Lafur yng Nghymru wedi tynnu Carl Sargeant oddi ar ei gwefan, heb gyhoeddi unrhyw fath o deyrnged i’r gwleidydd a fu’n Aelod Cynulliad tros Alyn a Glannau Dyfrdwy ers 2003.

“Wedi ymweld â [theulu Carl] Sargeant neithiwr,” meddai Darran Hill ar Twitter. “Roedd y lefel o anobaith a dicter yn torri calon. Fe aeth rhywbeth o’i le yn ofnadwy, ac mae y tu hwnt i ymarferion ticio blychau.

“Chafodd cyfiawnder naturiol ddim ei lle,” meddai wedyn.

“Yma yng Nghei Conna, mae yna anghrediniaeth fod y Prif Weinidog yn egluro ei ochr e o ddigwyddiadau i Aelodau Cynulliad heb unrhyw eglurhad i’r cyhoedd na’r teulu sydd wedi torri eu calonnau.”

Fe fydd y Prif Weinidog yn cwrdd ag Aelodau Cynulliad Llafur y prynhawn yma, wrth i rai gwleidyddion alw ar Carwyn Jones i ymddiswyddo.

 

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am roi sylw, a does neb yn swyddfa Llafur Cymru yn ateb y ffôn.