Mae Neil Hamilton, arweinydd UKIP yn y Cynulliad, wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i ymddiswyddo yn sgil diswyddiad a marwolaeth yr Aelod Cynulliad, Carl Sargeant.

Daw’r galw wedi i deulu Carl Sargeant rhyddhau llythyron rhwng ei gyfreithiwr a Llywodraeth Cymru, yn cadarnhau ei fod wedi wynebu honiadau yn gysylltiedig â “chyffwrdd amhriodol”.

Mae’r llythyron hefyd yn cadarnhau nad oedd yr Aelod Cynulliad yn gwybod am fanylion yr honiadau na phwy wnaeth gwyno amdano cyn iddo gael ei ganfod yn farw yng Nghei Conna ddydd Mawrth.

Ymddiswyddo

Yn ôl Neil Hamilton roedd ei waharddiad yn “greulon” ac mae’r wybodaeth yma yn profi nad oedd Carl Sargeant wedi cael cyfle i amddiffyn ei hun.

Mae hefyd yn dweud bod Carwyn Jones wedi ymddwyn “heb gydymdeimlad” trwy ddiswyddo Carl Sargeant heb fanylion am yr honiadau.

“Methodd y Prif Weinidog a gwireddu ei ddyletswydd gofal tuag at Carl Sargeant,” meddai. “Dylai’r Prif Weinidog dderbyn ei gyfrifoldeb personol ac ymddiswyddo.”