Mae’r heddlu yn Abertawe yn chwilio am gar Volkswagen Amorak ar ôl i ddynes oedrannus gael ei hanafu’n ddifrifol cyn i’r gyrrwr ffoi.

Roedd y ddynes 79 oed ar Ffordd Caernarfon yn ardal Bon-y-maen y ddinas pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Cafodd hi ei chludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol, ac mae’n bosib ei bod hi wedi cael anafiadau fydd yn newid ei bywyd.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â’r gyrrwr oedd wedi ffoi yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae Ffordd Caernarfon ynghau wrth i’r heddlu ymchwilio, ac maen nhw wedi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd.