Mae saith o bobol wedi eu harestio yng Nglannau Mersi mewn ymgyrch i rhwystro llif cyffuriau i ogledd Cymru.

Yn ôl awdurdodau, mae pum dyn o Lannau Mersi a dynes o Sir y Fflint wedi cael eu harestio dan amheuaeth o gyflawni troseddau cyffuriau.

Bellach mae’r saith unigolyn yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Wrecsam.

Dyma arestiadau diweddaraf ‘Ymgyrch Luxuries’ Heddlu Gogledd Cymru, sef ymgyrch i rhwystro mewnlifiad cyffuriau i’r Wyddgrug, o du hwnt i ogledd Cymru.