Mae corff Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i bedwar achos o hepatitis yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Daw’r ymchwiliad wedi i staff meithrinfa yn Sir Ddinbych gadarnhau bod plentyn sy’n mynychu’r safle, gyda Hepatitis A. Doedd y plentyn ddim wedi dal yr haint yno.

Bydd brechiad yn cael ei gynnig i 40 o bobol sydd yn gysylltiedig â meithrinfa Fun Days, Y Rhyl, ac mi fydd sesiwn brechu yn cael ei chynnal yno ar Dachwedd 9 (fory).

Does dim cysylltiad rhwng yr achosion diweddaraf yma â’r achosion o Hepatitis A yn ardal Rhyl ar ddechrau’r flwyddyn, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Golchi dwylo

“Haint firaol yw Hepatitis A, sydd yn achosi symptomau amhleserus – am gyfnod byr – ond sydd prin iawn yn ddifrifol,” meddai Dr Christopher Johnson, Ymgynghorwr Diogelu Iechyd.

“Mae modd i blant drosglwyddo’r firws i eraill heb ddangos symptomau, felly rydym yn atgoffa rhieni i annog plant i olchi eu dwylo yn drylwyr.”