Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones “wedi tristáu” yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, meddai, ond mae heddiw yn ddiwrnod i “ddangos parch” i’r teulu.

Daeth y sylw wrth i ITV Cymru ei holi ar stepen ei ddrws ddiwrnod ar ôl y newyddion am farwolaeth y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant.

Mae Carwyn Jones yn wynebu cwestiynau am y ffordd y cafodd honiadau am ymddygiad Carl Sargeant eu cyfeirio at y Blaid Lafur.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n myfyrio ac yn cofio’r teulu heddiw,” meddai Carwyn Jones. “Dyna’r cyfan alla i ei ddweud. Mae’n bwysig ein bod ni’n dangos parch.”

Gyrfa

Fe fu Carl Sargeant yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru tan yr wythnos ddiwethaf pan gafodd ei wahardd o’r blaid Lafur wrth i ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn rhywiol yn ei erbyn fynd rhagddynt.

Roedd yn byw yng Nghei Conna, Sir y Fflint gyda’i wraig ac mae ganddyn nhw ddau o blant, ac fe ddaeth yn Aelod Cynulliad tros Alun a Glannau Dyfrdwy yn 2003.

Cyn hynny roedd wedi hyfforddi’n ddiffoddwr tân diwydiannol ac wedi gweithio mewn ffatri gweithgynhyrchu cemegol a bu’n archwilydd ansawdd ac amgylcheddol.

Roedd wedi gwasanaethu ar Gyngor Tref Cei Conna ac yn llywodraethwr i Goleg Glannau Dyfrdwy ac Ysgol Bryn Deva.