Mae cwmni Tata Steel wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu buddsoddi £30m yn eu gweithfeydd ym Mhort Talbot.

Bydd y buddsoddiad yn galluogi cynhyrchiad dur arbenigol, ac yn arwain at gynhwysydd anferth 500 tunnell yn cael ei osod yn y gweithfeydd.

Mae’n debyg bydd y cynhwysydd yn galluogi gweithwyr i gynhyrchu cannoedd o dunelli o ddur yn ystod pob cylchrediad.

“Dyfodol y diwydiant”

“Bydd y buddsoddiadau yma yn ein cynorthwyo i fod yn fwy dibynadwy, ac yn dangos bod gennym ymrwymiad â dyfodol y diwydiant yn y Deyrnas Unedig,” meddai Bimlendra Jha, Prif Weithredwr Tata Steel UK.

“Mae diwydiant dur y Deyrnas Unedig yn parhau i wynebu heriau … felly mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio â’r Llywodraeth i sicrhau ein bod yn medru cystadlu â chystadleuwyr Ewropeaidd.”