Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau i godi fflatiau i fyfyrwyr ar safle tafarn hanesyddol yn y ddinas.

Gallai’r gwaith o droi tafarn y Cricketers yn 15 o fflatiau i 45 o fyfyrwyr ddechrau fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan gynghorwyr er gwaethaf pryderon fod gormod o lety i fyfyrwyr yn ardaloedd Brynmill ac Uplands y ddinas eisoes.

Mae’r dafarn ger cae rygbi a chriced San Helen wedi bod ar werth ers mis Ionawr yn dilyn blynyddoedd o gael ei throsglwyddo o un perchennog i’r llall.

Roedd rhai cynghorwyr yn croesawu’r ffaith y byddai’r safle’n parhau i gael ei ddefnyddio wrth godi fflatiau, ond roedd eraill yn dadlau nad oes angen rhagor o lety i fyfyrwyr yn y ddinas, gyda 165 o ystafelloedd gwag yn yr ardal eisoes.

Hanes

Fe fu’r dafarn yn ffefryn gan gefnogwyr rygbi a chriced ers blynyddoedd lawer, ac mae i’r dafarn ei lle yn hanes y byd chwaraeon.

Fe gafodd sylw byd-eang ar y teledu pan greodd Garfield Sobers hanes drwy fod y chwaraewr cyntaf i daro chwech chwech mewn pelawd, a hynny mewn gornest rhwng Swydd Nottingham a Morgannwg yn 1968.

Mae placiau gleision ar wal allanol San Helen gyferbyn â’r dafarn yn nodi’r gamp, yn ogystal â buddugoliaethau hanesyddol tîm rygbi Abertawe tros Awstralia, De Affrica a Seland Newydd ar y cae hwnnw.

Ar ei newydd wedd

Ar ei newydd wedd, fe fydd gan safle’r dafarn gyfagos le i saith cerbyd i barcio, yn ogystal â lle i 36 o feiciau.

Ond roedd ymgais i atal preswyliaid rhag parcio’u ceir ar y safle wedi methu – er gwaethaf 13 o lythyron yn mynegi pryderon, ac roedd nifer o bobol wedi mynegi pryder am ddiogelwch gan fod y dafarn ar y gornel rhwng dwy stryd.

Dim ond tri chynghorydd ar y pwyllgor cynllunio oedd yn erbyn y cynlluniau.