Mae pryderon y bydd rhyngwyneb Cymraeg Twitter yn dod i ben ddiwedd y mis.

Mae’r cwmni’n rhoi’r gorau i ddibynnu ar wirfoddolwyr i gyfieithu tudalennau’r wefan gymdeithasol ac mewn neges i’r cyfieithwyr, dywedodd y cwmni eu bod yn rhoi “diolch diddiwedd” iddyn nhw am eu cyfraniadau, ond bod “mynediad i’r cyhoedd yn cau ar 30 Tachwedd 2017”.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Twitter yn mynegi eu pryder yn sgil y cyhoeddiad, gan ofyn am sicrwydd y bydd y wefan ar gael yn Gymraeg yn fuan.

Yn ôl ystadegau’r wefan, mae mwy na 14,200 o gyfrifon Twitter yn defnyddio’r Gymraeg, ac fe fu bron i 5.7 miliwn o drydariadau Cymraeg ers y cychwyn.

Galw am drefn

Mewn datganiad, mae cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Aled Powell wedi galw ar Twitter i sicrhau bod y gwaith o gyfieithu’r wefan “yn parhau mewn modd mwy trefnus”.

“Rydym yn mawr obeithio nad dyma’r diwedd ar y gwaith a’r gobaith o weld Twitter ar gael yn Gymraeg,” meddai.

“Roedd yna rai problemau gyda’r system ac mae’n bosib mai datrysiad yw hyn gan Twitter i ddiogelu’r gwaith gan rwystro “mynediad i’r cyhoedd”.

“Mi fyddai’n dda gweld y gwaith yn parhau mewn modd mwy trefnus.

“Wrth ystyried holl waith y gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi oriau, dyddiau a hyd yn oed wythnosau o’u hamser i gyfieithu Twitter, mi fyddai’n sarhad peidio bwrw ymlaen.

“Mae’r galw a’r angen am i Twitter fod ar gael yn Gymraeg ac i fusnesau fedru hyrwyddo trydariadau Cymraeg yn fwy nag erioed.”