Mae’r heddlu’n dweud y gallai gymryd “sawl wythnos, os nad misoedd” i gwblhau eu hymchwil yn ne Powys yn dilyn tân mewn tŷ fferm yno.

Mae’r heddlu’n credu  bod tad ynghyd â phump o’i blant ifanc wedi marw ar ôl i dân ddifrodi’r tŷ yn Llangamarch ar Hydref 30.

Llwyddodd tri phlentyn arall i ddianc ac maen nhw’n cael gofal gan aelodau eraill o’r teulu.

Mae’n debyg bod yna “anawsterau sylweddol” o ran archwilio gweddillion yr adeilad, sy’n ansefydlog, ac mae’r awdurdodau’n rhybuddio y bydd y gwaith yn “cymryd amser”.

Arbenigwyr

Bellach mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn cynorthwyo â’r ymchwiliad, tra bod Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i’w arwain.

Bydd arbenigwyr yn mynd ati yn awr i ddymchwel wal allanol y tŷ ac yn cychwyn archwiliad gofalus tu fewn i’r adeilad.

Mae achos y tân yn parhau i gael ei drin fel un anesboniadwy.

Diolch i’r gymuned

“Rydyn ni eisiau cael hyn yn hollol gywir ar gyfer y teulu a byddwn ni’n gwneud pob dim o fewn ein gallu i ddeall beth ddigwyddodd yma,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd o Heddlu Dyfed-Powys, Martin Slevin.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth a’u hamynedd hyd yn hyn wrth inni ymchwilio i’r drasiedi hon, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn parhau wrth inni symud ymlaen.”