Mae apêl i amddiffyn capel eiconig Gradd I yng Ngwynedd wedi ei lansio’n swyddogol.

Nod ymgyrchwyr yw codi £15,000 er mwyn medru atgyweirio pediment Capel Peniel yn Nhremadog.

Mae gwerth £136,000 o grantiau i’w cyfrannu at y gwaith o adfer to’r capel eisoes wedi eu diogelu, a gobaith ymgyrchwyr yw cwblhau’r gwaith erbyn diwedd 2018.

Mae modd cyfrannu at ymgyrch ‘£1 i achub Pediment mewn Perygl’ trwy ddilyn y ddolen hon.

Hanes y capel

Cafodd y capel Methodistaidd ei gwblhau yn 1810, a chafodd ei ehangu yn 1849 yn unol â’r dyluniad gwreiddiol.

Mae’n debyg fod tu blaen y capel wedi’i seilio’n fras ar eglwys St Paul Inigo Jones yn Covent Garden yn Llundain.