Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw ar un o brif wleidyddion Llywodraeth Prydain i gynnal “asesiad risg” ar effaith Brexit ar Gymru.

Mewn llythyr at Damian Green, Ysgrifennydd Gwladol Prydain, mae David T.C. Davies, cadeirydd y Pwyllgor, yn galw arno i nodi beth yn union fydd effeithiau Brexit ar Gymru.

Ar hyn o bryd mae’r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar amaethyddiaeth a masnach Cymru ynghyd â throsglwyddo pwerau’n ôl i’r wlad.

‘Hanfodol’

Yn ei lythyr, mae David T.C. Davies yn nodi fod Pwyllgor Materion yr Alban wedi cael gwybod bod Llywodraeth Prydain yn cynnal dadansoddiad ar effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y wlad honno.

Mae’n gofyn felly a oes dadansoddiad tebyg yn cael ei gynnal am Gymru, ac yn galw arno i ymateb erbyn Tachwedd 22.

Mae David T.C. Davies hefyd yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â pha mor aml y bydd y Cydbwyllgor Gweinidogion yn cwrdd wrth i drafodaethau Brexit barhau, ynghyd â gwybodaeth fanylach am drosglwyddo pwerau i Gymru.

“Byddwn yn croesawu ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pwyntiau allweddol hyn cyn i fesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin,” meddai.

“Mae mewnwelediad i flaenoriaethau’r Llywodraeth a’u cynlluniau i’r dyfodol yn hanfodol wrth i’n hymchwiliad barhau i asesu’r materion, mesur barn y bobol a gwneud argymhellion ar y ffordd gorau ymlaen i Gymru.”