Mae disgwyl i arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru drafod heddiw sut mae atgyfnerthu’r broses o ymateb i honiadau am aflonyddu rhywiol o fewn y Cynulliad.

Daw hyn wedi i Lywydd y Cynulliad, Elin Jones, alw cyfarfod yn dilyn gohebiaeth rhyngddi hi â Carwyn Jones yr wythnos diwethaf.

Mae’n dilyn cyfarfod tebyg yn San Steffan ddoe lle daeth arweinwyr y pleidiau ynghyd i drafod system gwynion newydd sy’n annibynnol oddi wrth y pleidiau.

‘Adeg dyngedfennol’

Mae’r honiadau o aflonyddu rhywiol yn y byd gwleidyddol wedi dwysau dros y dyddiau diwethaf ac mae Carl Sargeant, Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy, wedi’i wahardd o’r blaid Lafur.

Mae hefyd wedi colli ei swydd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru tra bod ymchwiliad i “honiadau” yn ei erbyn yn cael ei gynnal.

“Mae’n hollbwysig bod pobol yn gwybod am y gweithdrefnau sydd ar gael iddynt os ydynt am wneud cwyn am gamymddygiad, a bod ganddynt hyder yn y gweithdrefnau hynny,” meddai Carwyn Jones yn ei lythyr at y Llywydd yr wythnos diwethaf.

Mae’n ychwanegu hefyd fod hwn yn “adeg dyngedfennol yn y frwydr yn erbyn ymddygiad annerbyniol.”