Fe fydd hyfforddwr ffitrwydd yn cael ei ddedfrydu heddiw ar ôl ei gael yn euog ddoe o lofruddio ei ferch fabwysiedig 18 mis oed drwy ei hysgwyd a tharo ei phen.

Roedd yr erlyniad wedi honni bod Matthew Scully-Hicks, 31, wedi achosi cyfres o anafiadau i Elsie Scully-Hicks yn yr wyth mis y bu hi yn ei ofal.

Bu farw pedwar diwrnod ar ôl iddi gael ei hysgwyd a’i tharo ar ei phen, a phythefnos yn unig ar ôl cael ei mabwysiadu’n swyddogol gan Matthew Scully-Hicks a’i ŵr, Craig Scully-Hicks, 36.

Yn ystod yr wyth mis, roedd Cyngor Bro Morgannwg wedi rhannu cyfrifoldeb am Elsie gyda’r cwpl, gyda gweithwyr cymdeithasol yn ymweld â’r cartref yn rheolaidd.

Mae Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) wedi cael ei gomisiynu i “amgylchiadau trasig” marwolaeth Elsie, meddai llefarydd ar ran Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant Caerdydd a Bro Morgannwg.

Cefndir

Cafodd Elsie ei mabwysiadu’n ffurfiol gan y cwpl ar 12 Mai’r llynedd gan ddioddef anafiadau angheuol yn eu cartref yn Llandaf, Caerdydd ar 25 Mai.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod  Craig Scully-Hicks yn gweithio pum diwrnod yr wythnos ac mai Matthew Scully-Hicks oedd y prif ofalwr.

Clywodd y rheithgor ei fod wedi cael trafferth ymdopi gyda’r ferch fach gan ei galw’n “Satan mewn Babygro” mewn negeseuon testun.

Roedd Matthew Scully-Hicks wedi honni bod Elsie wedi cael anafiadau angheuol ar ôl iddo ei newid i fynd i’r gwely yn eu cartref ar 25 Mai’r llynedd.

Fe ffoniodd am ambiwlans am 6.26yh a chafodd Elsie ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle bu farw pedwar diwrnod yn ddiweddarach. Fe ddangosodd profion ei bod wedi cael gwaedlif ar ei hymennydd a thu ôl i’w llygaid, ac wedi torri ei phenglog a thri o’i hasennau.

Roedd Matthew Scully-Hicks wedi mynnu nad oedd erioed wedi achosi niwed i Elsie, ond yn dilyn achos sydd wedi para am fwy na phedair wythnos, fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth gan y rheithgor a oedd wedi clywed tystiolaeth gan 12 arbenigwr meddygol a chwe meddyg oedd wedi trin Elsie.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu am 2pm ddydd Mawrth gan y barnwr Mrs Ustus Nicola Davies.