Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn o Gasnewydd ar ôl cymryd tabled ecstasi mewn clwb nos ym Mryste.

Bu farw’r llanc 19 oed ar ôl cymryd cyffur MDMA yng nghlwb Motion ddydd Sul (Tachwedd 5).

Dydy’r dyn ddim wedi cael ei enwi, ac mae ei deulu yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae’n debyg bod y dabled a gymrodd y dyn ifanc â’r gair “Tesla” arno, ac mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi apelio ar y cyhoedd i osgoi’r tabledi penodol yma.

“Rydym yn erfyn ar bobol i osgoi cymryd unrhyw dabledi â’r gair Tesla arnyn nhw oherwydd risg iechyd cysylltiedig,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yma gysylltu trwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 5217252944.”