Mae hyfforddwr ffitrwydd wedi’i gael yn euog o lofruddio ei ferch fabwysiedig 18 mis oed drwy ei hysgwyd a tharo ei phen.

Roedd Matthew Scully-Hicks, 31, wedi achosi cyfres o anafiadau i Elsie Scully-Hicks yn yr wyth mis y bu hi yn ei ofal.

Bu farw pedwar diwrnod ar ôl iddi gael ei hysgwyd a’i tharo ar ei phen, a phythefnos yn unig ar ôl cael ei mabwysiadu’n swyddogol gan Matthew Scully-Hicks a’i ŵr.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod  Matthew Scully-Hicks wedi cael trafferth ymdopi gyda’r ferch fach gan ei galw’n “Satan mewn Babygro” mewn negeseuon testun.

Roedd Matthew Scully-Hicks wedi mynnu nad oedd erioed wedi achosi niwed i Elsie, gan honni ei bod wedi dioddef anafiadau angheuol ar ôl iddo ei newid i fynd i’r gwely yn eu cartref yn Llandaf, Caerdydd ar 25 Mai’r llynedd.

Ond yn dilyn achos sydd wedi para am fwy na phedair wythnos, fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth gan y rheithgor.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu am 2pm ddydd Mawrth.