Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Prydain i symud prosiect Morlyn Llanw’r Môr yn ei flaen.

 

Mewn llythyr at y Trysorlys mae Mark Drakeford hefyd wedi gofyn am ymrwymiad i brosiectau trydaneiddio’r rheilffyrdd a datganoli tollau teithiau awyr.

 

Daw’r cais ar drothwy cyllideb yr hydref Llywodraeth Prydain a fydd yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 22.

 

Morlyn llanw’r môr

 

“Mae misoedd wedi mynd heibio ers i adolygiad Hendry roi sêl bendith i forlyn llanw Abertawe – rydyn ni nawr angen gweld ymrwymiad clir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn parhau â’r prosiect hwn,” meddai Mark Drakeford.

 

Mi gafodd y morlyn gefnogaeth adroddiad Charles Hendry ym mis Ionawr eleni, ond mae ei ddatblygiad yn dibynnu ar gael cymhorthdal gan Lywodraeth Prydain i alluogi Tidal Lagoon Power i ddechrau ar y prosiect gwerth £1.3 biliwn.

 

Trydaneiddio’r rheilffordd

 

Mae Mark Drakeford hefyd wedi pwyso ar Lywodraeth Prydain i beidio â chefnu ar y cynllun o drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.

 

Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, na fyddent yn parhau â’r cynllun.

Yn ôl Mark Drakeford, “dylai nawr ddefnyddio Cyllideb yr hydref fel cyfle i wyrdroi’r penderfyniad hwn ac ymrwymo i drydaneiddio’r rheilffordd yn llawn gan mai dyma oedd yr addewid i fusnesau a theithwyr y rhanbarth.”

 

Galwadau eraill

 

Mae hefyd wedi galw am fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru, sicrhau prosiectau cysylltedd i ogledd Cymru, datganoli rhyddfraint Cymru a’r Gororau a datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru.

 

Mae’n pwysleisio hefyd y dylai Gymru gael yr un lefel o gyllid o raglenni’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit am ei fod yn “hanfodol” i “amaethyddiaeth, busnesau, addysg uwch ac adfywio cymunedau ledled Cymru.”

 

“Rhaid inni gael yr un lefel o gyllid ag yr ydym yn manteisio arni ar hyn o bryd ac ni ddylai’r cyllid hwn fod yn destun unrhyw gyfyngiadau newydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai gan ddweud y byddai ymgais i gipio pwerau yn “amharchu datganoli.”