Mae Cadeirydd Cyngor Cymuned Dolgarrog am gyflwyno cynnig i greu cofeb arall i gofio am Drychineb Dolgarrog, a’r tro hwn yn y Gymraeg.

Mae’r gofeb sy’n coffáu’r 16 o bobol gafodd eu lladd wedi i argae ddymchwel ym mis Tachwedd 1925 wedi dod o dan y lach yn ddiweddar, a hynny am ei bod yn uniaith Saesneg.

Yn ogystal mae’r cerflunydd wnaeth greu’r gofeb, Giovanni Angelo, wedi troi at wefan gymdeithasol Twitter gan ddweud fod y gofeb wedi’i “chanmol gan bawb, heblaw am Taliban yr iaith Gymraeg.”

Doedd y Cadeirydd, David Williams, ddim am gynnig ymateb i hynny am nad yw wedi gweld y neges, ond mae’n dweud fod “hynna’n hollol rong”…. “dw i ddim yn cytuno efo hynna o gwbl.”

Cofeb arall

Ers dadorchuddio’r gofeb ddydd Iau’r wythnos diwethaf mae David Williams, Cadeirydd y Cyngor Cymuned, wedi cyfaddef iddo wneud camgymeriad drwy beidio â chynnwys y Gymraeg.

“Beth ro’n i wedi dweud wrth y dyn sydd wedi gwneud y gwaith i gyd a’i designio fo, oedd i wneud bob dim fel oedd o cynt, a dyna beth oedd o wedi’i wneud,” meddai wrth golwg360.

Mi fydd y Cyngor Cymuned yn cyfarfod heno ac mae David Williams yn bwriadu cynnig i “wneud rhywbeth tebyg yn Gymraeg fydd yn ffitio i mewn hefo be sydd yna’n barod.”

Mae’n dweud fod y gofeb bresennol wedi costio mwy na £1,000, ac mae’n rhagweld y gallai cofeb arall gymryd amser i’w gorffen, ond “dw i am ei wneud o.”

Cefndir

Mae’r gofeb yng ngardd goffa Dolgarrog yn cofio am 16 o bobol fu farw wedi i argae ddymchwel yn dilyn glaw trwm yn 1925, ac roedd chwe phlentyn ymhlith y meirw.

“Mae o’n bwysig ofnadwy [i gofio] achos wnaeth 16 o bobol gael eu lladd y noson honno,” meddai David Williams. “I bentref bach fel hyn, roedd hynna’n andros o drychineb, ac rydan ni eisiau cofio am y bobol yma.”