Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddynes 18 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrebannws yng Nghwm Tawe fore Sadwrn.

Bu farw Naomi Carter a’i chariad, Jason Thomas pan darodd eu car Peugeot 206 yn erbyn polyn wrth i’r car deithio ar hyd Ffordd Abertawe i gyfeiriad Clydach.

Cafodd bachgen 11 mis oed anafiadau ond dyw ei fywyd ddim mewn perygl. Mae lle i gredu mai mab Jason Thomas yw hwnnw.

‘Twll enfawr yn ein calonnau’

Mewn teyrnged, dywedodd ei mam, Kerry: “Roedd Naomi yn ferch 18 oed allblyg llawn bywyd oedd yn ferch, yn chwaer, yn wyres, yn fam, yn fodryb ac yn ffrind oedd yn mwynhau bywyd a cherddoriaeth, dawnsio a phartïon ar y penwythnos.

“Roedd Naomi wedi ymgyfarwyddo â bod yn fam yn ifanc, ac roedd hi’n caru ei mab ifanc Brogan.

“Mae hi wedi gadael twll enfawr yn ein calonnau, a bydd colled ar ei hôl hi bob dydd. Ry’n ni, fel teulu, yn torri ein calonnau a byddwn yn cofio amdani er lles Brogan.”

Ychwanegodd hi fod ei “meddyliau gyda theulu Jason hefyd”.

“Roedd Jason wedi gwneud Naomi yn hapus dros y misoedd diwethaf a gobeithio y byddan nhw’n gorffwys mewn hedd gyda’i gilydd.”