Mae Dyfodol i’r Iaith wedi diolch i Alun Davies am ei “arweiniad creadigol” tra ei fod yn Weinidog y Gymraeg ym Mae Caerdydd.

Eluned Morgan yw ei olynydd ar ôl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ad-drefnu ei Gabinet yr wythnos ddiwethaf.

Roedd e yn ei swydd ers mis Mai y llynedd.

‘Barod i weithredu’

Mewn datganiad, dywedodd Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd: “Yn ystod cyfnod Alun Davies, mae’r llywodraeth wedi dangos ei bod yn barod i weithredu mewn dau faes o bwys mawr i’r Gymraeg.

“Y cyntaf yw’r bwriad i ehangu addysg Gymraeg, a’r ail yw cyflwyno papur gwyn fydd yn rhoi modd i’r Llywodraeth roi blaenoriaeth i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned ac ym myd gwaith.”

Yn dilyn yr ad-drefnu, mae Alun Davies bellach yn Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

‘Edrych ymlaen’

Wrth edrych tua’r dyfodol, ychwanegodd Heini Gruffudd: “Rydyn ni’r un pryd yn croesawu Eluned Morgan i’w swydd, ac yn edrych ymlaen at weld dyheadau’r llywodraeth yn cael eu gwireddu o dan ei harweiniad hi.”

Mae Dyfodol i’r Iaith, ers tro, yn galw am sefydlu corff i fod yn gyfrifol am gynllunio ieithyddol a hyrwyddo’r iaith i “ddatblygu arbenigedd… a p[h]artneriaethau ag awdurdodau lleol a chyrff eraill”.

Byddai’r fath gorff, meddai’r mudiad, “yn gallu arwain prosiectau yn y gymuned ac ym myd gwaith gan ganolbwyntio ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg”, a hynny wrth i Lywodraeth Cymru anelu am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Un o fanteision y corff, ar ôl ei sefydlu yn sgil y Mesur Iaith nesaf,  yw y bydd yn gweithredu’n gydlynus, pa blaid bynnag a fydd mewn grym.”