Mae ci wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd yn oriau man y bore ma.

Mae tri o bobol yn derbyn triniaeth am effeithiau mwg yn dilyn y tân yn ardal Mynachdy yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 5 o’r gloch.

Fe fu diffoddwyr yn ceisio diffodd y fflamau am fwy nag awr.

Mae ymchwiliad ar y gweill.