Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones wedi dweud wrth golwg360 mai “rwtsh” a “stynt adain dde” yw’r feirniadaeth ohono ar Twitter gan olygydd Breitbart Llundain, Raheem Kassam.

Fe ddaeth y feirniadaeth ar ôl i Arfon Jones ddweud ei fod yn “falch o gefnogi” y papur newydd The New European, ac yntau’n “Gomisiynydd Heddlu etholedig”.

Papur newydd sy’n ei ddisgrifio’i hun fel “pro-Ewrop, gwrth-Brexit” yw The New European sydd, yn ôl Arfon Jones, “yn rhoi ongl wahanol i’r drafodaeth ar Brexit”.

‘Rhagrith’

Ond mae Raheem Kassam, sy’n gyn-ymgynghorydd i Nigel Farage ac yn gyn-ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth UKIP, wedi ei gyhuddo, yn ystod trafodaeth ar Twitter, o “ragrith” gan ei fod yn cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia, ond yn gwrthwynebu annibyniaeth Prydain mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd.

Eglurodd Arfon Jones wrth golwg360: “Dw i’n cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia, ond o fewn Ewrop. Mae Raheem Kassam a gweddill adain dde Breitbart yn cefnogi Brexit.

“Ond dydyn nhw ddim yn deall difrifoldeb y sefyllfa economaidd i wledydd fel Cymru a’r Alban a gwledydd felly.”

‘Rwtsh llwyr’

Mae Raheem Kassam wedi awgrymu y dylai Arfon Jones golli ei swydd fel Comisiynydd Heddlu am ei fod yn “pledio’i gefnogaeth i bapur gwrth-DU”.

Ond dywedodd Arfon Jones wrth golwg360: “Be ydi o i wneud efo’n swydd i? Barn wleidyddol ydi hi.

“Dw i wedi cael fy ethol fel Comisiynydd Plaid Cymru. Dw i jyst efo gwerthoedd Plaid Cymru, yn union fel mae’r Prif Weinidog efo gwerthoedd y Ceidwadwyr neu Jeremy Corbyn efo gwerthoedd y Blaid Lafur. Does dim gwahaniaeth.”

‘Trais yn erbyn pobol sy’n credu mewn sofraniaeth’

Y cyhuddiad mwyaf difrifol gan Raheem Kassam oedd fod Arfon Jones, drwy ddatgan cefnogaeth i’r New European, yn cefnogi “trais yn erbyn pobol sy’n credu mewn sofraniaeth”.

Dywedodd Arfon Jones fod yr honiad hwnnw’n “rwtsh” a’i fod yn “stynt adain dde fel rhyw bapurau fel y Mail a’r Sun gan Breitbart“.

Ychwanegodd: “Rwtsh llwyr ydi o i gyd.”