Fydd Gareth Bale ddim ar gael i chwarae dros Gymru mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Panama.

Mae e wedi dechrau ymarfer unwaith eto, ond dyw e ddim wedi gwella mewn pryd ar gyfer y gemau.

Dyw e ddim wedi chwarae’r un gêm ers Medi 26.

Daeth cadarnhad o’r newyddion am y Cymro gan reolwr Real Madrid, Zinedine Zidane.

 

Dywedodd ei fod yn awyddus iddo aros yn Sbaen er mwyn parhau i wella o’r anaf a gafodd yn y gêm Ewropeaidd yn erbyn Borussia Dortmund chwe wythnos yn ôl.

 

Doedd e ddim ar gael ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Georgia a Gweriniaeth Iwerddon fis diwethaf wrth i ymgyrch Cymru i gyrraedd Rwsia y flwyddyn nesaf ddod i ben.

Bydd Cymru’n herio Ffrainc ym Mharis ar 10 Tachwedd, cyn wynebu Panama gartref bedwar diwrnod yn ddiweddarach.