Fe fydd gorymdaith yn Aberystwyth heddiw wrth i’r frwydr i geisio achub cartref gofal yn y dref barhau.

Mae cynlluniau ar y gweill i gau Cartref Gofal Preswyl Bodlondeb ym Mhenparcau, sy’n colli £400,000 y flwyddyn.

Mae 33 o swyddi yn y fantol ac os yw’r cartref yn cau, byddai’n rhaid i’r 11 preswylydd ddod o hyd i gartrefi newydd.

Er bod 44 o ystafelloedd gwely yn yr adeilad, dim ond 26 sy’n gallu cael eu defnyddio am nad yw’r gweddill yn cyrraedd y safonau angenrheidiol.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad ar Sgwâr Glyndŵr am 12 o’r gloch heddiw mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, a’r Arglwydd Elystan Morgan.