Croesawu penodi Eluned Morgan i fod yn gyfrifol am y Gymraeg

Diweddarwyd  
Eluned Morgan

Eluned Morgan

Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru CC 2.0

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penodiad Eluned Morgan AC fel y Gweinidog newydd sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg.   

Mae Alun Davies, y Gweinidog blaenorol, wedi cael ei ddyrchafu o fod yn Weinidog tros y Gymraeg i fod yn Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Bydd y Farwnes Eluned Morgan yn etifeddu’r cyfrifoldeb tros yr iaith yn ei swydd newydd yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

‘Croesawu’r penodiad’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni’n croesawu’r penodiad. Yr hyn sydd angen i Eluned Morgan ei wneud nawr yw sicrhau bod gwaith go iawn yn cael ei gyflawni er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg o fewn y degawdau nesaf, targed sydd wedi ennyn cefnogaeth eang iawn ledled y wlad ac yn drawsbleidiol.

“Er mwyn cyrraedd y nod, mae angen cynnydd cyflym ar sefydlu’r cymhwyster Cymraeg cyfun newydd i bob disgybl ac ar ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg.

“Mae hefyd angen gollwng cynlluniau annoeth y papur gwyn ar gyfer Bil y Gymraeg sy’n cynnig gwanhau rheoleiddio a diddymu Comisiynydd y Gymraeg.

“Yn wir, byddai’n well gweithredu’r ddeddfwriaeth bresennol yn llawn na bwrw ymlaen gyda chynlluniau niweidiol y papur gwyn.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd