Mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yn ad-drefnu ei Gabinet.

Daeth cadarnhad y prynhawn yma bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, gynt o Blaid Cymru, bellach yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.

Y bore yma roedd golwg360 yn adrodd bod straeon ar led y byddai Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, sy’n gyn-Lywydd Plaid Cymru ond bellach yn AC Annibynnol, yn cael lle yng nghabinet Carwyn Jones:

A ydi Dafydd Elis-Thomas ar fin ymuno â Llywodraeth Carwyn Jones?

Ar ddiwrnod dramatig lawr yn y Bae, mae Alun Davies wedi ei ddyrchafu o fod yn Weinidog tros y Gymraeg i fod yn Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Bydd y Farwnes Eluned Morgan yn etifeddu’r cyfrifoldeb tros yr iaith yn ei swydd newydd yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Y Cabinet newydd

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones

Y Darpar Gwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams

Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, Julie James

Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas (Dirprwy i Ken Skates)

Y Gweinidog Tai ac Adfywio,  Rebecca Evans (Dirprwy i Alun Davies)

Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn (Dirprwy i Lesley Griffiths)

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan (Dirprwy i Kirsty Williams)

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant,  Huw Irranca-Davies (Dirprwy i Vaughan Gething).

“Tîm cryf”

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi fy nhîm Gweinidogol newydd, sy’n cydbwyso profiad a sefydlogrwydd ar un llaw gydag egni a brwdfrydedd ffres ar y llaw arall,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Bydd y tîm cryf hwn yn datblygu’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru – gan ganolbwyntio ar dyfu’r economi, creu swyddi, cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a gwella bywydau pobl Cymru.”

Croesawu Eluned Morgan

Tra yn croesawu penodiad Eluned Morgan AC fel y Gweinidog newydd gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw arni i gadw Meri Huws a swydd Comisiynydd y Gymraeg.

“Mae angen gollwng cynlluniau annoeth y papur gwyn ar gyfer Bil y Gymraeg sy’n cynnig gwanhau rheoleiddio a diddymu Comisiynydd y Gymraeg,” meddai Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

“Yn wir, byddai’n well gweithredu’r ddeddfwriaeth bresennol yn llawn na bwrw ymlaen gyda chynlluniau niweidiol y papur gwyn.”

Ymateb Plaid Cymru

“Nid yw Plaid Cymru yn meddwl llawer o’r ad-drefnu hwn,” meddai Dr Dai Lloyd, Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru.

“Mae Cymru fel cenedl yn crefu am syniadau newydd ac am newid cyfeiriad.  Does gan Gymru o hyd ddim llywodraeth fydd yn codi’r genedl i fyny’r tablau cynghrair ac a fydd yn ysbrydoli pobl gyda’i agenda.

“Nid y weinyddiaeth Lafur bresennol yw’r llywodraeth honno. Dros y misoedd diwethaf, cafwyd cyfres o fethiannau polisi a throeon pedol a orfodwyd arnynt, ar faterion mor amrywiol â’r fasnachfraint rheilffyrdd, ffioedd dysgu prifysgolion, a threftadaeth ein cenedl.

“Mae Plaid Cymru yn siomedig iawn nad yw’r ad-drefnu hwn yn newid portffolio’r economi a thrafnidiaeth. Wedi cyfres o gamau gwag o fewn y portffolio hwnnw, roedd yna gyfle euraid am newid sylfaenol, ond ni fanteisiwyd ar y cyfle hwnnw. Cenhadaeth Plaid Cymru yw dal y llywodraeth hon i gyfrif a rhoi atebion cadarnhaol i’r heriau sy’n wynebu ein cenedl.”