Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal heno yn Llandysul i drafod ffyrdd o adfywio’r dref fechan yng ngwaelod Ceredigion.

Yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, sydd wedi trefnu’r cyfarfod ac mae’n dod ar ôl i nifer o fanciau a busnesau lleol yng nghanol y dref gau.

Wrth siarad â golwg360, mae’r cynghorydd lleol, Keith Evans, yn dweud bod angen cysylltu â’r sector busnes er mwyn atal y dirywiad.

“R’yn ni wedi cael dirywiad ofnadwy dros y pum mlynedd ddiwethaf yn Llandysul, yn colli gwasanaethau,” meddai.

“Mae’r banciau yn cau, mae’r swyddfa bost er ei bod hi wedi cael ei hadleoli, wedi symud o’r brif stryd yn y dref sy’n drueni achos mae’n torri lawr nifer y bobol fyddai’n crwydro’r stryd sy’n helpu pob busnes.”

Dywedodd fod y dref fechan yn colli ei phobol ifanc gan nad oes swyddi da i’w cadw nhw yn yr ardal ac y gallai symud S4C helpu â hynny.

“Oni bai ein bod ni’n gallu cynnig cyfleoedd swyddi da, mae’n mynd i fod yn dipyn o sialens i gadw’n pobol ifanc ni.

“Dw i’n credu o weld S4C er enghraifft sydd wedi cymryd y cam dewr i fynd allan o’r brifddinas a dod i Gaerfyrddin, fi’n credu gallai hwnna fod yn faner i’w chwifio a bod potensial i swyddi gwell gael eu lleoli yma yn y sir.

“Mae’n mynd i fod yn agosach i adre i bobol ddweud ‘wel sdim rhaid i fi symud i le arall i ddod o hyd i waith.”

Er mwyn adfywio’r dref, mae Keith Evans yn dweud ei fod yn bwriadu cwrdd â’r sector busnes gan fod yr “allwedd yn gorwedd” gyda nhw, mae e hefyd am weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trefi gwledig.

Datblygu’r hen ysgol uwchradd

Mae cynllun ar waith gan grŵp Plant y Dyffryn i ddatblygu hen safle Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi yn y dref a’i droi yn hwb i fusnesau a llety i bobol sy’n dod i ganŵio yn afon Teifi.

Mae Keith Evans yn dweud ei fod yn croesawu’r “llond llaw” o bobol ifanc sy’n “cymryd cyfrifoldeb am ddyfodol eu cymuned” ond bod angen cynllun busnes i fynd law yn llaw â’r datblygiad.

“Dw i’n credu bod y cynlluniau’n iawn ond pan fyddwch chi am fynd i siarad ag unrhyw berson sy’n mynd i ariannu’r rhywbeth o’r math yma, rhaid i chi gael cynllun busnes sy’n stacio fyny.

“Peth rhwydd yw meddwl am syniadau ‘gallwn ni gael hyn a gallwn ni gael llall’ ond dyw hwnna ddim yr un peth â gwireddu cynllun busnes sy’n stacio fyny er mwyn cael cefnogaeth ariannol.

“Dw i ddim yn meddwl bod dim byd o’i le gyda’r cysyniad o’i wneud e ond dyna’r part rhwydd, gwireddu hwnna yw’r broblem, gydag unrhyw brosiect cymunedol i ddweud y gwir.

“Dw i’n gwybod bod nhw wedi rhoi cynnig i mewn am arian oddi wrth ffynonellau ariannol a bod nhw wedi cael eu gofyn i wneud mwy o waith neu roi cais arall i mewn sy’n cynnwys mwy o wybodaeth.”

Dywedodd fod y Cyngor Sir yn agored i gydweithio gyda’r prosiect.