Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi penodi Jane Dodds yn arweinydd newydd ar y blaid yng Nghymru.

Bydd yr ymgeisydd o Sir Drefaldwyn yn olynu’r cyn-Arweinydd, Kirsty Williams, ac yn esgyn i’r safle o fewn y blaid yn syth.

Curodd ymgeisydd Ceredigion am yr arweinyddiaeth, Elizabeth Evans, mewn pleidlais lle enillodd dros hanner y bleidlais (53.1%).

“Mae cael fy ethol yn arweinydd newydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn fraint,” meddai  Jane Dodds.

“Byddaf yn canolbwyntio ar uno pobol o’r un meddylfryd er mwyn ailgodi ein plaid ac er mwyn ail sefydlu’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn rym radical a blaengar yng ngwleidyddiaeth Cymru.”

“Mae Cymru angen y Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy nag erioed … Rydym wedi cael ein taro i lawr ond rydym ni yma o hyd, a dw i’n hyderus am ddyfodol fy mhlaid.”

Pwy yw Jane Dodds?

Mae Jane Dodds yn hanu o Wrecsam, wedi bod yn gwneud gwaith cymdeithasol ym maes gofal plant dros yr ugain blynedd diwethaf.

Mae wedi gweithio i awdurdodau lleol ac wedi cyfrannu at adran blant Cyngor y Ffoaduriaid, gan helpu plant sydd yn ffoi i Brydain ar eu pennau hunain.

Fe astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae hi’n siarad Cymraeg.