Mae golwg360 wedi cael cadarnhad bod y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ail-drefnu ei gabinet ar hyn o bryd.

Mae sïon y gallai’r Aelod Cynulliad Annibynnol, Dafydd Elis-Thomas, gael swydd o fewn y cabinet newydd, ond doedd y swyddog ar ran Llywodraeth Cymru ddim yn gallu cadarnhau fod hynny’n wir ai beidio.

Mae adroddiadau, heb eu cadarnhau, y gallai fod yn cymryd swydd Alun Davies fel Gweinidog y Gymraeg – eto, doedd y swyddog ddim yn gallu cadarnhau hynny.

Dywedodd y swyddog na fyddai pob swydd yn cael ei gyhoeddi’n unigol ar Twitter, fel sydd wedi cael ei wneud yn ddiweddar ond y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud p’nawn yma ar ôl i Carwyn Jones orffen ail-drefnu.

Dydi Cabinet Llywodraeth Cymru heb gael ei ail-drefnu ers etholiadau’r Cynulliad yn 2016.