Mae pobol yn credu bod bwyd o Gymru yn fwy ‘naturiol’ na bwydydd eraill dan frand Prydain Fawr, yn ôl arolwg newydd.

Mae pobol ledled Prydain yn fwy tueddol o ddefnyddio’r gair ‘naturiol’ i ddisgrifio bwyd a diod o Gymru na bwyd a diod o wledydd eraill Prydain, meddai adroddiad Bwyd a Diod Cymru, y sefydliad lled-braich dan adain Llywodraeth Cymru.

Fe allai’r wybodaeth fod yn arwyddocaol oherwydd y pryderon am ddyfodol brand annibynnol Cymreig ar ôl Brexit.

Da, ond ddim yn fodlon talu mwy

Roedd y sefydliad  wedi holi 1,000 o bobol ledled y Deyrnas Unedig mewn arolwg ar-lein, ar ben 600 o siopwyr eraill o Gymru.

Roedd mwy na hanner y bobol ‘r tu allan i Gymru yn cytuno fod Cymru yn adnabyddus am fwyd a diod o ansawdd da, a chwarter yn dweud eu bod am gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru.

Ond llai na 15% oedd eisiau gweld mwy o frandiau bwyd a diod Cymru yn y siopau.

Ac er bod 85% o bobol Cymru yn cytuno bod bwyd o Gymru o ansawdd da ac 80% yn cytuno ei fod yn blasu’n wych, dim ond 44% oedd yn dweud y bydden nhw’n barod i dalu mwy am y cynnyrch.

Cyfnod bregus

Daw’r ymchwiliad ar gyfnod bregus i’r diwydiant, wrth i rai boeni y gallai adael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen yn y pendraw fod yn andwyol i ffermwyr a chynhyrchwyr.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae bwyd a diod o Gymru wedi datblygu enw da haeddiannol am fod yn unigryw ac o ansawdd uchel,” meddai’r Gweinidog Cabinet tros faterion gwledig, Lesley Griffiths.

“Yn brawf o hynny y mae’r ffaith bod un deg pedwar cynnyrch o Gymru wedi ennill y statws mawr ei fri – Enw Bwyd Gwarchodedig.

“Mae’r adroddiad yn dangos bod cefnogaeth gref i fwyd a diod o Gymru a bod defnyddio eu “Cymreictod” i gryfhau eu sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn dod â manteision pendant.”