Fe fydd y pwysau ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i godi tai newydd yn cwympo’n sylweddol, meddai’r cynghorydd sy’n gyfrifol am gynllunio yn y sir.

Wrth i’r cyngor baratoi i ddechrau gweithio ar gynllun datblygu newydd, mae Alun Lenny’n disgwyl i’r galw o gyfeiriad y Llywodraeth syrthio o 15,000 o dai i 3,000.

Fe fyddai hynny’n golygu dadwneud argymhellion y Cynllun Datblygu Lleol (LDP) presennol sydd wedi arwain at ddadlau a phrotestio tros gynlluniau i godi stadau tai mewn ardaloedd fel Pontweli ger Llandysul.

Mae dadlau wedi bod hefyd tros fwriad i ganiatáu codi 1,100 o dai yn nhref Caerfyrddin.

‘Mas o ddât’

Fe bwysleisiodd Alun Lenny mai Llywodraeth Cymru oedd yn rhoi ffigurau codi tai i’r cyngor, wedi eu seilio ar asesiad o’r angen.

“Roedd yr hen gynllun wedi ei seilio ar ffigurau sydd mas o ddât,” meddai’r cynghorydd mewn sesiwn drafod dan adain Golwg ar Grwydr yng Nghaerfyrddin neithiwr.

“Fe fydd yr LDP newydd yn dod i mewn ymhen tair blynedd ac r’yn ni’n dechrau y mis yma ar ei baratoi e. Rwy’n deall y bydd y rhagdybiaeth i lawr o tua 15,000 i 3,000.”

Roedd y ffigurau cynharach wedi eu creu cyn y chwalfa economaidd a dim ond canran fechan o’r tai posib oedd wedi eu codi yn nhref Caerfyrddin.