Mae byd Twitter wedi ymateb yn ffyrnig i’r newyddion y bydd S4C yn talu costau teithio staff rhwng Caerdydd a Chaerfyrddin am flwyddyn gron.

Mae pobol wedi bod yn trydar eu rhwystredigaeth a rhai yn dweud bod y penderfyniad i dalu am betrol, diesel neu drên i staff y Sianel Gymraeg sy’n dewis cymudo yn “wastraff arian”.

Y disgwyl yw y bydd gwaith i rhwng 50 a 60 o weithwyr y Sianel yn symud i Gaerfyrddin, gyda’r gweddill yn aros yng Nghaerdydd.

Yr wythnos hon fe ddywedodd Prif Weithredwr newydd S4C, Owen Evans, bod staff am gael blwyddyn i arbrofi gydag “ymdopi” yn y pencadlys newydd, sydd i fod i agor ymhen blwyddyn.

Mae’r Athro Richard Wyn Jones yn awgrymu bod sawl peth wedi mynd o’i le gyda’r prosiect i symud S4C, gan gyfeirio at y ffaith fod y Prif Weithredwr, Ian Jones, wedi gadael cyn yr adleoli a bod Garffild Lloyd Lewis, oedd yn bennaeth ar y prosiect hefyd wedi gadael.

Yn ôl Jason Morgan, mae talu costau teithio staff S4C yn “negyddu’r llwyr y rheswm craidd dros symud y pencadlys yn y lle cyntaf, heb sôn am fod yn wastraff arian.”

Mae Esyllt Mair wedi dweud nad oes lle i’r Sianel Genedlaethol gwyno am ddiffyg arian os mai dyma fydd “arian prin” yn cael ei wario.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C wrth golwg360 bod “yna nifer o becynnau adleoli ar gael i staff i’w helpu gyda chostau dros gyfnod y symud. Mae hyn yn cynnwys costau teithio i staff fydd yn gweithio cyfnodau pontio wedi’r adleoli”.

Yn ôl y llefarydd, mae’r symud yn dal i fod yn “gost niwtral”, fel gwnaeth S4C addo.

Mae cost niwtral yn golygu “na fydd cost gweithredu o Gaerfyrddin yn ddrutach na gweithredu o Lanisien… dros gyfnod o 20 mlynedd”.