Mae awdures yn “eithaf ffyddiog” nad grymoedd goruwchnaturiol oedd ar waith pan aeth tŷ ar dân ym Mhen Llŷn ar ddydd Calan Gaeaf yr wythnos hon.

Cafodd y frigâd dân ei galw i dŷ Pantywennol ger Mynythu ben bore Mawrth (Hydref 31) a hyd yma nid yw’r gwasanaethau yn gallu dweud beth yn union oedd achos y tân.

Ond wfftio unrhyw ddamcaniaethau ofergoelus y mae Ruth Richards, awdur y nofel Pantywennol a gyhoeddwyd y llynedd ac sy’n adrodd hanes go iawn iasol y tŷ.

Mae’r tŷ yn adnabyddus am ei gysylltiadau â’r ocwlt, a dyna pam y mae rhai wedi awgrymu bod amseriad y digwyddiad diweddaraf hwn yn fwy na chyd-ddigwyddiad.

“Cyd-ddigwyddiad diddorol”

“Ges i sioc o glywed am y tân,” meddai Ruth Richards wrth golwg360, “ond dydw i ddim am or-dadansoddi’r peth yma – mi wna’i adael hynna i’r heddlu.

“Mae popeth wedi bod yn dawel ym Mhantywennol ers canrif a hanner. Mae gynnoch chi’r cyd-ddigwyddiad diddorol yma ar fore Calan Gaeaf… ond dydw i ddim yn credu y gall unrhyw un rhoi gormod o goel ar hynna.

“Mi faswn i’n gobeithio nad ysbrydion sydd ar waith!” meddai Ruth Richards wedyn. “Mae hi’n flynyddoedd lawer ers digwyddiadau 1865. Does dim smic wedi bod o dŷ Pantywennol ers hynna… os nad oes rhywun arall yn gwybod yn wahanol.”

Ond mae’r awdures yn cyfaddef nad yw ei meddwl wedi’i “gau’n llwyr” i’r ochr oruwchnaturiol ym Mhantywennol.

Hanes y tŷ

Rhwng 1865 a 1866 bu cyfres o ddigwyddiadau rhyfedd ym mhentref Mynytho – yn bennaf, achosion o ddilladau pobol y cyffiniau yn cael eu rhwygo heb esboniad.

Achosodd hynny tipyn o “banig yn y gymuned”, yn ôl Ruth Richards, a thros amser cafodd hyn ei olrhain i ardal Pantywennol lle’r oedd y broblem ar ei gwaethaf.

Yn y pen draw, fe gafodd merch ieuengaf y tŷ ei harestio a’i danfon i’r carchar wedi i lyfr codi ysbrydion gael ei ddarganfod.

Dychwelodd y ferch i’r ardal ar ôl cael ei rhyddhau, ac mae sôn y byddai’n arddangos ei phwerau telecinetig yn achlysurol os oedd mewn hwyliau gwael.