Mae sylfaenwyr cyfrif Twitter gyda thua 10,000 o ddilynwyr sy’n hyrwyddo busnesau a chyrff Cymraeg eu hiaith, wedi cyhoeddi na fydd yn dod i ben y mis hwn wedi’r cwbwl.
Yn wreiddiol, fe ddywedodd Huw Marshall a Dewi Eirug y byddai Yr Awr Gymraeg yn dod i ben ar Dachwedd 15, pen-blwydd y cyfrif yn bump oed.
Ond mae’n debyg bod gweld llawer o negeseuon o gefnogaeth a ddaeth yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw wedi gwneud i’r ddau ail-feddwl.
Bydd y cyfrif, sydd wedi bod yn cynnal awr o hyrwyddo a marchnata yn y Gymraeg rhwng wyth a naw bob nos Fercher ers 2012, y parhau tan o leiaf ddiwedd y flwyddyn.
Yn ystod yr awr, mae modd i fusnesau a chyrff wneud cais am aildrydariad trwy ychwanegu’r hashtag #yagym i’w hysbyseb.
Bellach mae gan Yr Awr Gymraeg bron i 10,000 o ddilynwyr ar Twitter, yn ogystal â phresenoldeb ar wefan Facebook lle mae dros 1,300 yn ei ddilyn a’i ‘hoffi’.
Dim arian cyhoeddus
Mewn datganiad ar wefan Yr Awr Gymraeg, mae’r sylfaenwyr yn dweud bod llwyddiant y cyfrif wedi achosi problem, “wrth i’r gynulleidfa a defnyddwyr gynyddu mae’r amser mae’n cymryd i reoli yn cynyddu, hyd at 20 awr yr wythnos.”
Mae’n dweud hefyd ei fod wedi llwyddo i godi £2,500 i gefnogi eu hamcanion, gyda “rhywfaint o’r arian wedi ei fuddsoddi yn natblygiad y wefan a hefyd yn ein hymdrechion i godi arian ychwanegol fydd yn ein galluogi i fod yn hunan [g]ynhaliol.”
Ond er i’r Awr gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i “geisio denu cefnogaeth a buddsoddiad i’n galluogi i gyrraedd y nod o fod yn hunan [g]ynhaliol,”, maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus.
Ond maen nhw’n dweud bod gwleidyddion o bob lliw wedi bod yn gefnogol at yr achos ac y bydd yr Awr yn cysylltu â nhw i weld beth sy’n bosib i’w wneud yn ymarferol.
“Felly yn dilyn trafodaeth rhwng Huw a Dewi mae’r Awr am barhau tan y flwyddyn newydd, y Nadolig yw cyfnod prysuraf yr Awr a’r amser mae busnesau, sefydliadau, elusennau ac unigolion angen y sylw mae’r Awr yn ei gynnig.
“Mae’r ddau yn gweithio ar gynllun hir dymor fydd yn galluogi’r Awr i dyfu, ac yn y pendraw, i fod yn hunan [g]ynhaliol. Debyg fydd elfen o ariannu torfol a cheisiadau i lywodraeth a ffynonellau eraill am fuddsoddiad.”