Bydd S4C yn talu costau teithio staff sy’n penderfynu cymudo o Gaerdydd i Gaerfyrddin i’r pencadlys newydd, a hynny am hyd at flwyddyn.

Bydd y Sianel Gymraeg yn talu am betrol, diesel neu drên i’w staff sy’n dewis cymudo rhwng y brifddinas a’i chanolfan newydd yn y gorllewin.

Y disgwyl yw y bydd gwaith 50 i 60 o weithwyr y Sianel yn symud i Gaerfyrddin, gyda’r gweddill yn aros yng Nghaerdydd.

Yr wythnos hon fe ddywedodd Prif Weithredwr S4C bod staff am gael blwyddyn i arbrofi gydag “ymdopi” yn y pencadlys newydd, sydd i fod i agor ymhen blwyddyn.

Ac mae llefarydd y Sianel wedi ymhelaethu wrth golwg360 bod “yna nifer o becynnau adleoli ar gael i staff i’w helpu gyda chostau dros gyfnod y symud. Mae hyn yn cynnwys costau teithio i staff fydd yn gweithio cyfnodau pontio wedi’r adleoli”.

Dywedodd y llefarydd fod y symud yn dal i fod yn “gost niwtral”, fel gwnaeth S4C addo.

Mae cost niwtral yn golygu “na fydd cost gweithredu o Gaerfyrddin yn ddrutach na gweithredu o Lanisien… dros gyfnod o 20 mlynedd”.

Cyfnod pontio o hyd at flwyddyn

Fe wnaeth y Prif Weithredwr newydd, Owen Evans, gadarnhau wrth gylchgrawn Golwg y bydd gweithwyr S4C yn cael treulio blwyddyn yn y pencadlys newydd yng Nghaerfyrddin, cyn penderfynu a ydyn nhw am aros yno neu beidio.

Mae disgwyl i rhwng 50 a 60 o swyddi gael eu symud i ganolfan newydd Yr Egin erbyn hydref 2018.

Bydd y staff yn cael dewis rhwng gadael S4C, teithio rhwng dau leoliad, symud i’r ardal neu arbrofi gydag “ymdopi” yng Nghaerfyrddin.

115 o weithwyr llawn amser sydd ym mhencadlys bresennol S4C yn Llanisien ar hyn o bryd. Mae disgwyl i swyddogion technegol S4C aros yng Nghaerdydd a symud i swyddfa newydd y BBC yng nghanol Caerdydd.