Mae pwysau ar Ysgrifennydd Addysg Cymru i ymchwilio i’r corff Cymwysterau Cymru, a hynny yn dilyn honiad nad yw’n trin myfyrwyr Cymraeg a di-Gymraeg yn gyfartal.

Mae athro ysgol wedi ysgrifennu at Kirsty Williams yn dweud bod disgyblion Cymraeg yn cael eu trin yn anffafriol, am nad oes modd iddyn nhw bellach astudio Seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mewn llythyr yn mynegi ei rwystredigaeth, mae Pennaeth Seicoleg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, yn dweud bod y ‘Welsh Not’ yn gweithredu yn erbyn rhai pynciau.

Mae Chris Evans yn galw ar Kirsty Williams i weithredu ar fyrder ac yn mynegi ei siom na weithredodd yr Ysgrifennydd Addysg ym mis Hydref. Bryd hynny roedd trafod ar ddeiseb ar y mater, a dywedodd Kirsty Williams mai “cyfrifoldeb Cymwysterau Cymru yw trefniadau ar gyfer dynodi a chymeradwyo cymwysterau”.

Ond mae Chris Evans yn anghytuno, gan ofyn yn ei lythyr: ‘Er bod Cymwysterau Cymru yn ‘rheoleiddiwr annibynnol’, mae’n rhaid eu bod yn atebol i’r Ysgrifennydd Addysg, yn enwedig wrth weithredu mewn ffordd sy’n dangos diffyg parch at iaith ein cenedl ac ysgolion cyfrwng Cymraeg?’

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru wrth golwg360: “Mae hwn yn fater i Cymwysterau Cymru ond bydd yna ymateb i lythyr Mr Evans maes o law.”

Y cefndir

Dywed Chris Evans bod y nifer sy’n dewis astudio Seicoleg wedi cynyddu o wyth disgybl i bron i 100 ers ei gyflwyno yn 2009.

Ond yn 2016, meddai yn ei lythyr, “penderfynodd CBAC nad oedd niferoedd digonol i barhau gyda’r cwrs [ledled Cymru], am resymau ariannol”.

Er mwyn parhau â’r cwrs yng Nghymru, fe wnaeth Cymwysterau Cymru wahodd byrddau arholi eraill o Loegr i gynnig y cwrs.

Ond yn ôl Chris Evans, chafodd dim pwysau ei roi arnyn nhw i gynnig darpariaeth Gymraeg.

“Cysylltais gyda Chymwysterau  Cymru gyntaf ym mis Ionawr 2016, ac egluro bod potensial o niferoedd o dros 100 o ymgeiswyr Cymraeg a fyddai angen y papur trwy’r Gymraeg, a dwedon nhw eu bod yn ‘hyderus’ y byddai’r cwrs ar gael i ni,” meddai yn ei lythyr at Kirsty Williams.

“Yn anffodus, ac yn anghrediniol, ni roddwyd unrhyw bwysau gwirioneddol ar y Byrddau Saesneg i gynnig y pynciau hyn yn y Gymraeg. Roedd angen i bob Bwrdd ysgrifennu ‘datganiad’ ar eu hystyriaeth o gynnig opsiwn Cymraeg, ond os oedden nhw’n dweud nad oedden nhw am wneud hynny, dyna oedd diwedd y mater…

“Yr unig reswm nad ydw i’n gallu cynnig yr un cwrs i’r myfyrwyr yn fy ysgol yw oherwydd ein bod yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rhwng y pum canolfan Gymraeg oedd yn dysgu Seicoleg TGAU, roedd potensial o tua 150 ymgeisydd cyfrwng Cymraeg, ond mae’r rhain i gyd yn cael eu hamddifadu o’r cyfle oherwydd iaith eu hysgol.”

‘Welsh Not’

Yn ôl Chris Evans, mae Cymwysterau Cymru wedi gadael i’r byrddau arholi drin Cymru yn union fel Lloegr ac mai canlyniad hyn ‘yw y bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dioddef llai o ddewis o ran pynciau nag ysgolion cyfrwng Saesneg.

“Does dim dewis o ran iaith yn fy ysgol i, ond mewn ysgolion dwyieithog, fydd hyn yn annog disgyblion sy’n medru’r Gymraeg i ddilyn cyrsiau fel hyn drwy’r Saesneg, a gweld y Gymraeg fel iaith israddol, a sefydlu fersiwn modern o’r ‘Welsh Not’ ar gyfer pynciau lleiafrifol.”

Yn ôl Chris Evans mae ‘cyfrifoldeb’ ar Kirsty Williams  ‘i weithredu ar y mater ar fyrder a defnyddio eich pwerau i orfodi ymchwiliad trylwyr i bolisi Cymraeg gwan Cymwysterau Cymru, a’u diffyg cefnogaeth dros ddysgwyr cyfrwng Cymraeg yn ein gwlad ein hunain’.

Ymateb Cymwysterau Cymru

“Fel y rheoleiddiwr annibynnol, yr ydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y cymwysterau y gellir eu cymryd drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai’r corff Cymwysterau Cymru wrth golwg360.

“Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gwario mwy na £1.2m yn helpu cyrff dyfarnu i gynyddu’r ystod o asesiadau ac adnoddau sydd ar gael yn Gymraeg. Rydym yn gweithio gyda chyrff dyfarnu, ysgolion a cholegau i dargedu ein hymdrechion lle mae’r galw mwyaf am asesu cyfrwng Cymraeg.

“Mae’r holl gymwysterau TGAU a Safon Uwch mewn pynciau a ddatblygwyd yn benodol i Gymru yn cael eu cynnig gan CBAC yn gwbl ddwyieithog. Caiff pynciau eraill, a astudir gan niferoedd gymharol isel o ddysgwyr yng Nghymru, eu cynnig gan sawl corff dyfarnu. Mae rhai o’r rhain yn cael eu cynnig yn ddwyieithog tra bod rhai eraill ddim ond ar gael yn Saesneg.

“Fel rhan o’r diwygiadau TGAU, roedd Seicoleg yn un o’r pynciau lle yr ystyriwyd fod y nifer posibl o ymgeiswyr yng Nghymru yn rhy isel i gorff dyfarnu allu datblygu cymhwyster yn benodol i Gymru. Mae yna gymhwyster TGAU Seicoleg wedi ei ddiwygio ar gyfer Lloegr ac mae tri corff dyfarnu yn ei gynnig yno.

Yr oeddem wedi disgwyl byddai o leiaf un corff dyfarnu yn cynnig fersiwn Lloegr o’r cymhwyster TGAU Seicoleg i ddysgwyr yng Nghymru yn ddwyieithog. Er gwaethaf ein hymdrechion i’w gefnogi i wneud hynny, nid yw hyn wedi digwydd. Rydym wrthi’n ystyried pa opsiynau eraill sydd ar gael i ateb y galw am seicoleg TGAU cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys p’un a ellid datblygu fersiwn yn benodol i Gymru.”