Mae Prif Weindiog Cymru, Carwyn Jones, wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli pwerau gosod trethi hedfan, a hynny yn sgil adroddiad newydd sy’n nodi y gallai hynny fod o fudd economaidd i dde Cymru a de-orllewin Lleogr.

Ar hyn o bryd, San Steffan sy’n pennu faint o dreth (Toll Teithwyr Awyr) sy’n cael ei gosod ar deithiau hedfan i gwmseriaid o Gymru, er gwaetha’r ffaith bod gan yr Alban a Gogledd Iwerddon bwerau i dorri cost teithiau hir drwy leihau’r dreth.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi galw ar San Steffan i ddatganoli’r grym hwn, gyda chomisynau Holtham a Silk hefyd wedi gwneud galwadau tebyg.

Ond prif bryder San Steffan yw y bydd unrhyw ostyngiad yn y Toll Teithwyr Awyr yng Nghymru yn effeithio’n negyddol ar Faes Awyr Bryste.

Achos economaidd “cryf iawn”

Mae’r adroddiad annibynnol gan y cwmni ymghynghorol, Northpoint, yn nodi na fyddai cam o’r fath yn gwneud fawr o effaith negyddol i Faes Awyr Bryste, ac y byddai, mewn gwirionedd, yn hwb i ecenomi de Cymru a de-orllewin Lloegr.

Mae Carwyn Jones yn mynnu felly fod y “dystiolaeth newydd hon” yn chwalu unrhyw ddadleuon sy’n mynd yn groes i ddatganoli, ac yn cyflwyno achos economaidd “cryf iawn” dros gymryd y cam.

“Wrth inni baratoi ar gyfer dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd”, meddai, “mae’n hanfodol ein bod yn gallu hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang a chefnogi twf yn ein sector hedfan a’r economi yn ehangach.

“Byddai parhau i wrthod datganoli’r Doll Teithwyr Awyr yn wyneb tystiolaeth mor gryf yn dangos diystyrwch enbyd a fyddai’n gwahaniaethu Cymru, yn cyfyngu ar ein gallu i hyrwyddo Cymru dramor ac yn tanseilio ein buddion economaidd.”