Mae’r gymuned gyfan wedi cael eu heffeithio gan dân diweddar yn ne Powys, yn ôl cynghorydd lleol.

Mae’r Cynghorydd Tim Van-Rees, yn cynrychioli’r ward bychan lle ddigwyddodd y tân – dim ond tua 350 o bobol sy’n byw yno – ac mae’n nodi ei fod wedi cael “effaith ofnadwy”.

“Mae’n drueni mawr,” meddai Tim Van-Rees wrth golwg360. “Mae’n beth ofnadwy i ddigwydd.

“Roeddwn i’n nabod y teulu. Roedd pobol yn eu parchu a’u hoffi o fewn y gymuned glos yma. Roedd Mr Cuthbertson yn caru ei blant. Mae’n drychineb yn amlwg i’r teulu, ac i’r gymuned gyfan.”

Yn ôl Tim Van-Rees, mae’r bostfeistres leol wedi dechrau codi arian i gynorthwyo’r teulu, ac mi fydd gwasanaeth o gydymdeimlad yn cael ei gynnal yn fuan.

Sioc i’r gwasanaeth tân

Mae Tim Van-Rees hefyd yn digwydd bod yn aelod o’r awdurdod tân lleol, ac yn nodi bod y trychineb yn “hollol ddigynsail” yn yr ardal, a bod yr awdurdod “heb brofi colled bywyd ar y raddfa yma o’r blaen”.

Wrth drafod ymateb gwasanaethau tân ddydd Llun mae’n canmol eu “cyflymder aruthrol” ac yn nodi fod gwasanaethau achub wedi “canu clodydd i’r brigadau tân lleol”.

Y tân

Mae heddlu yn credu bod tad ynghyd â phump o blant ifanc wedi marw ar ôl i dân ddifrodi tŷ fferm yn Llangamarch ym Mhowys fore Llun yr wythnos hon (Hydref 30).

Llwyddodd tri phlentyn – 13, 12 a 10 oed – i ddianc o’r tân ac maen nhw’n parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty. David Cuthbertson yw enw’r dyn bu farw, yn ôl adroddiadau lleol.