Mae heddlu’n apelio am wybodaeth wedi i leidr dargedu dyn 90 oed yng Nghasnewydd.
Roedd hi tua 5yh ar Hydref 10, pan ddilynodd lleidr y gwr oedrannus i ardd ei dŷ yn Stryd Mountjoy. Yno, fe geisiodd ddwyn arian o’i boced, cyn i gymydog darfu arno.
Cafodd y dyn oedrannus ei ddychryn, ond ni chafodd ei anafu yn y digwyddiad.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, i gysylltu gyda nhw.